Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022

 

Pwyntiau Craffu Technegol

Mae’r Pwyllgor wedi codi un ar ddeg o bwyntiau o dan Reol Sefydlog 21.1 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Darperir ymatebion ar wahân isod i bob un o’r pwyntiau a godwyd. Mae Llywodraeth Cymru, o ystyried nifer a natur y materion hyn, wedi penderfynu ail-wneud y Rheoliadau er mwyn mynd i’r afael â’r pwyntiau a godwyd. Bydd set bellach o Reoliadau yn cael ei gosod, a daw i rym yn union ar ôl y set hon, gan ddirymu a disodli’r Rheoliadau hynny.

 

Pwynt Craffu Technegol 1

Ymateb

Eglurwyd hyd a lled ystyr “gwarcheidiaeth” yn Rheoliadau 2010 drwy gyfeirio at adran 30(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000, er ei bod eisoes wedi ei diddymu ar y pryd hwnnw.

Mae’r diffiniad o “gorchymyn gwarcheidiaeth” yn adran 30(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000 yn ddefnyddiol i gyfeirio ato er gwaethaf y ffaith bod y ddarpariaeth wedi’i diddymu. Mae hyn oherwydd ei fod yn cynnwys cyfeiriad at y ffurf ar orchymyn gwarcheidiaeth a ddeellir yn fwyaf cyffredin o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, ac at hynny mae hefyd yn cyfeirio at y ffurfiau llawer prinnach ar warcheidiaeth o dan Ddeddf y Fyddin 1955, Deddf yr Awyrlu 1955 a Deddf Disgyblaeth y Llynges 1957. Er bod pob un o’r tair Deddf hyn wedi ei diddymu yn ei chyfanrwydd gan Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006, mae’r darpariaethau arbed yn dangos ei bod yn dal yn bosibl i orchmynion a wnaed odanynt fod mewn grym. Adran ddehongli yw adran 30, felly ni chafodd hon ei hun ei chynnwys yn y darpariaethau arbed.  

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai fod yn fwy hygyrch pe cyfeirid yn uniongyrchol at ddarpariaethau deddfwriaethol eraill a gynhwysir o fewn cwmpas ystyr term, hyd yn oed os ydynt wedi eu diddymu, yn hytrach na drwy gyfeiriad eilaidd sydd ei hun wedi ei ddiddymu.

 

Pwynt Craffu Technegol 2

Ymateb

Rydym yn cydnabod bod pedwar gwahanol baragraff (a) yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Fodd bynnag, gan mai un paragraff (a) yn unig sy’n cynnwys y flwyddyn “2010” (neu, yn wir, unrhyw ddyddiad), ystyrir bod y cyfeiriad a amnewidiwyd gan baragraff 12(2) yn ddiamwys a’i fod yn darparu sicrwydd cyfreithiol. Â pharch, gofynna Llywodraeth Cymru a yw’n gywir codi’r pwynt hwn o dan Reol Sefydlog 21.2 (vi), sy’n cyfeirio at ddrafftio diffygiol neu ddrafftio sy’n methu â bodloni gofynion statudol.

Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai fod o well cymorth i’r darllenydd pe byddid yn nodi’r diffiniad penodol o fewn rhestr nad yw wedi ei rhifo er mwyn dangos ymhle mae’r diwygiad i gael ei wneud.

 

Pwynt Craffu Technegol 3

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno mai yn anfwriadol yr hepgorwyd cyfeiriad at orchymyn o dan adran 20A o DSG 2000 fel gorchymyn anghymhwyso, a bydd yn mynd ati i gywiro hyn.

 

Pwynt Craffu Technegol 4

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr argymhelliad o blaid safoni’r cyfieithiad o “gross indecency”.

Defnyddiwyd “anwedduster garw” fel ffordd o gyfieithu “gross indecency” yn Rheoliadau 2010, a dyma’r cyfieithiad a awgrymir mewn sawl ffynhonnell wahanol, sy’n awgrymu bod y cyfieithiad hwn yn gywir ac yn dderbyniol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod, fodd bynnag, fod “anwedduster difrifol” wedi ei ddefnyddio mewn Rheoliadau mwy diweddar yn 2019.

Rydym wedi codi’r mater hwn â chydweithwyr proffesiynol ym maes cyfieithu deddfwriaethol, ond yn y byr amser rhwng cael adroddiad y cynghorwr cyfreithiol a drafftio ymateb, nid yw’n cydweithwyr wedi gallu rhoi ystyriaeth lawn i’r mater. Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon rhoi adborth i’r pwyllgor cyn gynted ag y bydd y mater wedi’i ystyried a barn wedi’i llunio. 

 

Pwynt Craffu Technegol 5

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am dynnu sylw at y pwynt adrodd hwn. Mae’n cytuno â’r pwynt a bydd yn mynd ati i gywiro’r testun Cymraeg.

 

Pwynt Craffu Technegol 6

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am dynnu sylw at y pwynt adrodd hwn. Mae’n cytuno â’r pwynt a bydd yn mynd ati i gywiro’r testun Cymraeg.

 

Pwynt Craffu Technegol 7

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am dynnu sylw at y pwynt adrodd hwn. Mae’n cytuno â’r pwynt a bydd yn mynd ati i gywiro’r testun.

 

Pwynt Craffu Technegol 8

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwynt a bydd yn mynd ati i gywiro’r cyfeiriad er mwyn iddo gyfeirio at adran 3A o Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 (trosedd o fethu ag amddiffyn merch rhag risg o anffurfio organau cenhedlu).

 

Pwynt Craffu Technegol 9

Ymateb

Mae sylw’r cynghorwr cyfreithiol, sef y sylw bod “maethu preifat” yn cyfeirio’n gyffredinol at drefniadau maethu a wneir heb gyfraniad awdurdodau lleol, yn gywir. Mae hefyd yn gywir wrth nodi mai teitl yr adran ar gyfer adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (“Deddf 1984”) yw “Troseddau sy’n ymwneud â phlant maeth” (“Offences related to foster children”) ac nad yw’n awgrymu bod cwmpas yr adran wedi’i gyfyngu i drefniadau maethu preifat yn unig.  

Fodd bynnag, mae Deddf 1984 wedi ei drafftio yn y fath fodd fel bod pob plentyn sydd o fewn oedran ysgol, ac y gofelir amdano gan rywun ac eithrio rhiant neu warcheidwad, yn cael ei alw’n “blentyn maeth” (“foster child”) (gweler adran 1). Mae adran 2 wedyn yn eithrio bron pob math o blant maeth heblaw’r rhai y byddid, yng Nghymru a Lloegr, yn cyfeirio atynt fel plant sydd wedi eu “maethu’n breifat”. Credwn y bydd cynnwys y gair “preifat” yn cynorthwyo darllenydd sy’n gyfarwydd â’r derminoleg a ddefnyddir yng nghyfraith Cymru a Lloegr i ddeall bod y troseddau dan sylw yn rhai sy’n gysylltiedig â “maethu preifat” fel y’i deellir yn yr awdurdodaeth hon.  

 

Pwynt Craffu Technegol 10

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am dynnu sylw at y pwynt hwn, a bydd yn mynd ati i gywiro’r testun Saesneg er mwyn cyfeirio at Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008.  

 

Pwynt Craffu Technegol 11

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am godi’r pwynt hwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddiwygio’r cyfeiriad at Gyfraith Plant (Jersey) 1969.

 

Pwyntiau Craffu ar Rinweddau

Mae’r Pwyllgor wedi codi pum pwynt o dan Reol Sefydlog 21.13 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn; mae’n ofynnol ymateb i dri ohonynt.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 14

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y byddai nodi rhifau’r adrannau penodol y gwneir y gorchmynion dan sylw odanynt yn darparu gwell cymorth i’r sawl sy’n defnyddio’r ddeddfwriaeth. Bydd cyfeiriadau at y rhifau adran priodol yn cael eu gwneud ar yr un pryd ag yr eir i’r afael â materion eraill y mae rhaid eu cywiro.

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y byddai mewnosod troednodyn i egluro mai ystyr “Deddf Tynwald” yw Deddf a basiwyd gan Senedd Ynys Manaw yn gymorth i’r darllenydd.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 15

Ymateb

Er nad oes effaith gyfreithiol i droednodiadau, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod troednodiadau yn fanwl gywir, er mwyn sicrhau eu bod o gymorth i’r darllenydd.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 16

Ymateb

Mae’r eithriad o’r weithdrefn hepgoriadau o dan reoliad 9(2) yn gymwys mewn perthynas â phersonau sydd wedi eu heuogfarnu o droseddau yn erbyn plant fel y’u diffinnir yn adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000 pan fo’r drosedd ei hun wedi ei diddymu ers hynny. Byddai rhai o’r personau hynny wedi bod yn destun gorchymyn anghymhwyso wedi’i osod gan y llys, yn ogystal ag unrhyw ddedfryd arall.

Derbynnir nad yw’r nodyn esboniadol yn fanwl gywir, gan na fyddai personau a oedd yn ddarostyngedig i orchmynion anghymhwyso o dan adrannau 28(4), 29(4) neu 29A(2) o reidrwydd wedi bod ar un neu’r llall o’r rhestrau a gedwid gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ac na fyddai eraill a oedd ar y rhestrau hynny o reidrwydd wedi bod yn destun gorchmynion anghymhwyso a wnaed gan y llys.